Terms and conditions

Amodau a Thelerau

 

(1)      Cyflwyniad

 Mae’r amodau a’r telerau hyn yn rheoli’r modd y byddwch yn defnyddio ein gwefan. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn derbyn yr amodau a’r telerau hyn yn llawn.  Os ydych yn anghytuno â’r amodau a’r telerau hyn neu unrhyw ran ohonynt, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan.

(2)      Trwydded i ddefnyddio’r wefan

Oni nodir yn wahanol, ni neu’n trwyddedwyr sy’n berchen ar yr hawliau eiddo deallusol sydd yn y wefan hon a deunydd y wefan.  Yn amodol ar y drwydded isod, cedwir yr holl hawliau eiddo deallusol hyn.

Cewch edrych ar dudalennau o’r wefan, eu lawrlwytho at ddiben eu storio dros dro’n unig, a’u hargraffu at eich defnydd personol, yn amodol ar y cyfyngiadau a eglurir isod ac mewn mannau eraill yn yr amodau a’r telerau hyn. 

Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:

(a)      ailgyhoeddi deunydd o’r wefan hon (gan gynnwys ailgyhoeddi’r deunydd ar wefan arall);

(b)      gwerthu deunydd o’r wefan, ei osod ar rent neu’i isdrwyddedu;

(c)       dangos unrhyw ddeunydd o’r wefan mewn man cyhoeddus;

(ch)     atgynhyrchu deunydd o’n gwefan, ei ddyblygu, ei gopïo neu’i ddefnyddio mewn unrhyw fodd arall at ddiben masnachol;

(d)      golygu unrhyw ddeunydd o’r wefan, neu’i addasu mewn unrhyw fodd arall.

(3)      Defnydd derbyniol

Rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan mewn unrhyw fodd sy’n achosi, neu a allai achosi, niwed i’r wefan neu rwystr i’r graddau y mae’r wefan ar gael neu’n hygyrch. Yn ogystal, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan mewn unrhyw fodd sy’n anghyfreithlon, yn dwyllodrus neu’n niweidiol, neu’i defnyddio mewn perthynas ag unrhyw ddiben neu weithgaredd sy’n anghyfreithlon, yn dwyllodrus neu’n niweidiol.

Rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan i gopïo, storio, dangos, trosglwyddo, anfon, defnyddio, cyhoeddi neu ddosbarthu unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys ysbïwedd, firws cyfrifiadurol, rhaglen ceffyl pren Troea, mwydyn, cyfleuster logio trawiadau ar fysellau, pecyn rheoli gwraidd neu feddalwedd cyfrifiadurol maleisus arall, neu unrhyw ddeunydd sy’n gysylltiedig â’r rhain.

Rhaid i chi beidio â chynnal unrhyw weithgareddau casglu data systematig neu awtomatig (gan gynnwys - heb gyfyngiad - crafu, cloddio, echdynnu a chynaeafu data) ar ein gwefan neu mewn perthynas â’n gwefan, heb gael caniatâd ysgrifenedig penodol gennym i wneud hynny.

Rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan i drosglwyddo neu anfon negeseuon masnachol na ofynnwyd amdanynt.

Rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan at unrhyw ddibenion sy’n ymwneud â marchnata, heb gael caniatâd ysgrifenedig penodol gennym i wneud hynny.

(4)      Cyfyngu mynediad

Rydym yn cadw’r hawl i gyfyngu mynediad i rai ardaloedd o’n gwefan, neu’r wefan gyfan, fel y gwelwn yn ddoeth.

Os byddwn yn rhoi enw defnyddiwr a chyfrinair i chi i’ch galluogi i gael mynediad i ardaloedd cyfyngedig o’n gwefan, neu gynnwys neu wasanaethau eraill, rhaid i chi sicrhau bod yr enw defnyddiwr a’r cyfrinair yn cael eu cadw’n gyfrinachol. 

Gallwn gymryd camau i analluogi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair, fel y gwelwn ni’n unig yn ddoeth, heb rybudd nac esboniad.

(5)      Cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr

Yn yr amodau a’r telerau hyn, ystyr “y cynnwys a gynhyrchir gennych fel defnyddiwr” yw deunydd (gan gynnwys - heb gyfyngiad - testun, delweddau, deunydd sain, deunydd fideo a deunydd clywedol) a anfonir gennych i’n gwefan at ba bynnag ddiben.

Rydych yn rhoi caniatâd byd-eang, di-alw’n-ôl, anneilltuedig, rhydd o freindal i ni ddefnyddio, atgynhyrchu, addasu, cyhoeddi, cyfieithu a dosbarthu’r cynnwys a gynhyrchir gennych fel defnyddiwr mewn cyfryngau sy’n bodoli ar hyn o bryd a chyfryngau a fydd yn bodoli yn y dyfodol.  Rydych hefyd yn rhoi hawl i ni isdrwyddedu’r hawliau hynny, ac rydych yn rhoi hawl i ni ddwyn achos am dresmasu ar yr hawliau hynny.

Rhaid sicrhau nad yw’r cynnwys a gynhyrchir gennych fel defnyddiwr yn anghyfreithlon, rhaid sicrhau nad yw’n tresmasu ar unrhyw hawliau cyfreithiol sydd gan drydydd parti, a rhaid sicrhau na all arwain at achos cyfreithiol - yn eich erbyn chi, yn ein herbyn ni neu yn erbyn trydydd parti (dan unrhyw gyfraith berthnasol bob tro). 

Rhaid i chi sicrhau nad yw unrhyw gynnwys a gynhyrchir gennych fel defnyddiwr ac a anfonir i’n gwefan yn destun unrhyw achos cyfreithiol gwirioneddol neu achos cyfreithiol a fygythir, neu gŵyn debyg, a rhaid i chi sicrhau nad yw erioed wedi bod yn destun unrhyw achos neu gŵyn o’r fath yn y gorffennol.

Rydym yn cadw’r hawl i olygu neu ddileu unrhyw ddeunydd a gaiff ei anfon i’n gwefan, a gaiff ei storio ar ein gweinyddwyr, neu a gaiff ei ddangos neu’i gyhoeddi ar ein gwefan.

(6)      Gwarantau cyfyngedig

Er ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon (ac eithrio’r cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr) yn gywir, nid ydym yn gwarantu bod y wybodaeth yn gyflawn  neu’n fanwl gywir, ac nid ydym yn ymrwymo i sicrhau bod y wefan yn parhau i fod ar gael neu fod deunydd y wefan yn cael ei ddiweddaru.

I’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith berthnasol, rydym yn nadu pob sylw, gwarant ac amod sy’n ymwneud â’r wefan hon a’r defnydd a wneir ohoni (gan gynnwys - heb gyfyngiad - unrhyw warant ynghylch ansawdd boddhaol, addasrwydd i ddiben a/neu ddefnydd o ofal a sgil rhesymol, sydd ymhlyg yn y gyfraith).

(7)      Cyfyngiadau ar atebolrwydd

Ni fydd unrhyw beth yn yr amodau a’r telerau hyn (neu mewn mannau eraill ar ein gwefan) yn nadu neu’n cyfyngu ein hatebolrwydd am dwyll, marwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod ni, neu unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei nadu neu’i gyfyngu dan y gyfraith berthnasol.

Yn amodol ar hynny, bydd ein hatebolrwydd i chi mewn perthynas â’r defnydd a wneir o’n gwefan, neu dan yr amodau a’r telerau hyn neu mewn perthynas â nhw, boed mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu fel arall, wedi’i gyfyngu fel a ganlyn:

(a)      i’r graddau y caiff y wefan a’r wybodaeth a’r gwasanaethau sydd ar y wefan eu darparu’n rhad ac am ddim, ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu niwed o unrhyw fath;

(b)      ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu niwed canlyniadol, anuniongyrchol neu arbennig;

(c)       ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled o ran elw, incwm, refeniw, arbedion disgwyliedig, contractau, busnes, ewyllys da, enw da, data, neu wybodaeth;

(ch)     ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu niwed sy’n deillio o unrhyw ddigwyddiad neu ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol ni.

(8)      Indemniad

Rydych gan hynny yn ein hindemnio ni ac yn ymrwymo i barhau i’n hindemnio ni rhag unrhyw golledion, iawndal, costau, rhwymedigaethau a threuliau (gan gynnwys - heb gyfyngiad – unrhyw dreuliau cyfreithiol ac unrhyw symiau a delir gennym i drydydd parti wrth setlo hawliad neu ddatrys anghydfod ar sail cyngor gan ein hymgynghorwyr cyfreithiol) y byddwn yn mynd iddynt neu’n eu dioddef o ganlyniad i’r ffaith neu honiad eich bod chi, mewn unrhyw fodd, wedi torri unrhyw ddarpariaeth yn yr amodau a’r telerau hyn.

(9)      Torri’r amodau a’r telerau hyn

Heb niweidio ein hawliau eraill dan yr amodau a’r telerau hyn, os byddwch yn torri’r amodau a’r telerau hyn mewn unrhyw fodd, gallwn gymryd unrhyw gamau gweithredu yr ydym yn eu hystyried yn briodol i ddelio â hynny, gan gynnwys atal eich hawl i gael mynediad i’r wefan, eich gwahardd rhag cael mynediad i’r wefan, rhwystro cyfrifiaduron sy’n defnyddio eich cyfeiriad IP rhag cael mynediad i’r wefan, cysylltu â’ch darparwr gwasanaethau rhyngrwyd i ofyn iddo eich rhwystro rhag cael mynediad i’r wefan, a/neu ddwyn achos llys yn eich erbyn.

(10)    Amrywio

Gallwn adolygu’r amodau a’r telerau hyn o bryd i’w gilydd.  Bydd yr amodau a’r telerau diwygiedig yn berthnasol i’r defnydd a wneir o’n gwefan o ddyddiad cyhoeddi’r amodau a’r telerau diwygiedig ar ein gwefan.  Dylech chi ddarllen y dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r fersiwn cyfredol.

(11)    Trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau

 Gallwn drosglwyddo neu isgontractio ein hawliau a/neu’n rhwymedigaethau, neu ddelio fel arall â nhw, dan yr amodau a’r telerau hyn heb eich hysbysu neu heb eich cydsyniad.

 Ni allwch chi drosglwyddo neu isgontractio eich hawliau a/neu’ch rhwymedigaethau, neu ddelio fel arall â nhw, dan yr amodau a’r telerau hyn. 

 (12)    Toradwyedd

Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys arall yn penderfynu bod darpariaeth yn yr amodau a’r telerau hyn yn anghyfreithlon a/neu’n anorfodadwy, bydd y darpariaethau eraill yn parhau i fod mewn grym.  Pe bai unrhyw ddarpariaeth anghyfreithlon a/neu anorfodadwy’n gyfreithlon neu’n orfodadwy pe bai rhan ohoni’n cael ei dileu, bernir bod y rhan dan sylw wedi’i dileu, a bydd gweddill y ddarpariaeth yn parhau i fod mewn grym.

(13)    Nadu hawliau trydydd parti

Mae’r amodau a’r telerau hyn er eich budd chi a’n budd ni, ac ni fwriedir iddynt fod o fudd i unrhyw drydydd parti neu’n orfodadwy gan unrhyw drydydd parti.  Nid yw arfer ein hawliau ni a’ch hawliau chi mewn perthynas â’r amodau a’r telerau hyn yn amodol ar gydsyniad unrhyw drydydd parti.[1]

(14)    Cytundeb cyflawn

 Yr amodau a’r telerau hyn ynghyd â’n polisi preifatrwydd yw’r cytundeb cyflawn rhyngoch chi a ni mewn perthynas â’ch defnydd o’n gwefan, ac maent yn disodli pob cytundeb blaenorol mewn perthynas â’ch defnydd o’r wefan hon.

 (15)    Y gyfraith ac awdurdodaeth

Bydd yr amodau a’r telerau hyn yn cael eu rheoli gan gyfraith Lloegr, a byddant yn cael eu dehongli’n unol â’r gyfraith honno. Bydd unrhyw anghydfodau mewn perthynas â’r amodau a’r telerau hyn yn rhwym wrth awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

(16)    Ein manylion

 Enw llawn ein cwmni yw Cynorthwyo Grwpiau i Dyfu. 

 Rydym wedi ein cofrestru yng Nghymru a Lloegr dan y rhif cofrestru canlynol: 0634660.

 Ein cyfeiriad cofrestredig yw Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin SA31 3HB. 

 Gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at: .(JavaScript must be enabled to view this email address)

  Lluniwyd yr amodau a’r telerau hyn trwy garedigrwydd Website Contracts a Website Law