Pwy fydd yn cynnal y rhaglen?
Mae ein staff yn cynnwys tîm profiadol iawn o weithwyr proffesiynol a ddewiswyd yn arbennig ar gyfer y rhaglen, gan fanteisio ar wahanol ddisgyblaethau therapiwtig sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a defnyddio cyffuriau ac alcohol.
Rydym yn cyflwyno’r rhaglen Llwybrau at Adferiad trwy bartneriaethau â staff sefydliadau sy’n bodoli eisoes mewn gwahanol ardaloedd ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys.
Er mwyn cyfoethogi ein gwasanaeth, mae gennym dîm o gynghorwyr proffesiynol y gallwn ni ofyn am eu help pan fo angen.
