Llwybrau at Adferiad

Trosolwg

Rhaglen gyffrous newydd yw Llwybrau at Adferiad a ddatblygwyd i ddiwallu anghenion pobl ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys sydd â phroblemau o ran defnyddio cyffuriau a/neu alcohol a phroblemau iechyd meddwl megis iselder ysbryd, gorbryder, lefelau isel o hunan-barch, ac anhwylderau’n ymwneud â phanig.

Mae Llwybrau at Adferiad yn rhaglen therapiwtig sy’n cynnwys tair sesiwn ar ddeg ac sy’n galluogi pobl i adnabod y maes pwysicaf sy’n effeithio ar eu defnydd o gyffuriau a/neu alcohol, eu hiechyd meddwl neu’r anawsterau y maent yn eu profi â’u ffordd o fyw.

Mae’r rhaglen yn cynnig dull personol o weithredu, ac mae’n helpu pobl i oresgyn eu problemau er mwyn byw bywyd iach a chytbwys.

Mae ein ‘model cydbwysedd ffordd o fyw’ yn adnodd ar gyfer deall y problemau y mae pob un sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn eu hwynebu, ac mae’n adnodd ar gyfer delio â’r problemau hynny. Mae’n galluogi pawb i gael eu trin fel unigolion cyflawn, ac mae’n mynd i’r afael â phroblemau unigolion er mwyn eu galluogi i fyw bywyd sy’n llawn boddhad.