Privacy

Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd 

 

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd ymwelwyr â’n gwefan, ac mae’r polisi hwn yn egluro sut y byddwn yn trin eich gwybodaeth bersonol.

 

(1)      Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?

 

Gallwn gasglu, storio a defnyddio’r mathau canlynol o ddata personol:

 

(a)      gwybodaeth am eich cyfrifiadur, eich ymweliadau â’r wefan hon a’ch defnydd ohoni (gan gynnwys eich cyfeiriad IP, lleoliad daearyddol, math o borwr);

 

(b)      gwybodaeth yr ydych yn ei rhoi at ddiben cofrestru â ni (gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn);

 

(c)      gwybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni at ddiben tanysgrifio i’n gwasanaethau ar y wefan, a thanysgrifio i hysbysiadau drwy e-bost a/neu lythyrau newyddion;

 

(ch)    unrhyw wybodaeth arall y byddwch chi’n dewis ei hanfon atom.

 

(2)      Briwsion (Cookies)

 

Mae briwsionyn yn cynnwys gwybodaeth a anfonir gan we-weinyddwr at we-borwr, a chaiff ei storio gan y porwr. Yna caiff y wybodaeth ei hanfon yn ôl at y gweinyddwr bob tro y bydd y porwr yn gofyn am dudalen o’r gweinyddwr. Mae hynny’n galluogi’r gwe-weinyddwr i adnabod y gwe-borwr a dilyn ei hynt.

 

Rydym yn defnyddio briwsion “parhaus” ar y wefan. Byddwn yn defnyddio’r briwsion parhaus i alluogi ein gwefan i’ch adnabod pan fyddwch chi’n gwneud sylw yn yr adran newyddion a’r adran erthyglau (pan fyddwch chi’n gofyn am y gwasanaeth hwnnw).

 

Bydd briwsion parhaus yn aros ar eich cyfrifiadur nes y byddant yn cael eu dileu neu nes y byddant yn cyrraedd dyddiad penodedig pan fyddant yn dod i ben.

 

Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu i chi wrthod pob briwsionyn, ond dim ond briwsion trydydd parti y bydd rhai porwyr yn caniatáu i chi eu gwrthod.  Er enghraifft, yn Internet Explorer gallwch chi wrthod pob briwsionyn trwy glicio ar “Offer”/“Tools”, “Dewisiadau’r Rhyngrwyd”/“Internet Options” a “Preifatrwydd”/“Privacy”, a dewis “Rhwystro pob briwsionyn”/“Block all cookies” gan ddefnyddio’r botwm sy’n llithro.  Fodd bynnag, bydd rhwystro pob briwsionyn yn cael effaith negyddol ar eich gallu i ddefnyddio llawer o wefannau.

 

(3)      Defnyddio eich data personol

 

Bydd data personol a gyflwynir ar y wefan hon yn cael ei ddefnyddio at y dibenion a nodir yn y polisi preifatrwydd hwn neu mewn rhannau perthnasol o’r wefan.

 

Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i:

 

(a)      weinyddu’r wefan;

 

(b)      gwella eich profiad o bori ar y we drwy bersonoli’r wefan;

 

(c)      eich galluogi i ddefnyddio’r gwasanaethau sydd ar gael ar y wefan;

 

(ch)    anfon hysbysiadau atoch drwy e-bost, yr ydych wedi gofyn yn benodol amdanynt;

 

(d)      anfon ein llythyr newyddion atoch a negeseuon eraill yr ydym o’r farn y gallent fod o ddiddordeb i chi ynghylch ein gwasanaeth, ac anfon y rheini drwy’r post neu drwy e-bost neu dechnoleg debyg os ydych wedi cytuno’n benodol i ni wneud hynny (gallwch roi gwybod i ni unrhyw bryd os nad ydych am gael negeseuon marchnata mwyach)

 

(dd)    delio ag ymholiadau a chwynion a wneir gennych neu a wneir amdanoch mewn perthynas â’r wefan.

 

(4)      Datgeliadau

 

Gallwn ddatgelu gwybodaeth amdanoch i unrhyw un o’n gweithwyr, cyhyd â bod hynny’n angenrheidiol o fewn rheswm at y dibenion a eglurir yn y polisi preifatrwydd hwn.

 

Yn  ogystal, gallwn ddatgelu gwybodaeth amdanoch:

 

(a)      i’r graddau y mae’n ofynnol i ni wneud hynny’n ôl y gyfraith;

 

(b)      mewn perthynas ag unrhyw achos cyfreithiol gwirioneddol neu arfaethedig;

 

(c)      er mwyn sefydlu, arfer neu amddiffyn ein hawliau cyfreithiol (gan gynnwys darparu gwybodaeth i eraill at ddibenion atal twyll a lleihau risg o ran credyd).

 

Ni fyddwn yn rhoi gwybodaeth i drydydd partïon oni bai y darperir ar gyfer hynny yn y polisi preifatrwydd hwn.

 

(5)      Diogelwch eich data personol

 

Byddwn yn cymryd camau trefniadaethol a thechnegol rhesymol i atal unrhyw achos o golli, camddefnyddio neu newid eich gwybodaeth bersonol.

 

Byddwn yn storio’r holl wybodaeth bersonol y byddwch yn ei darparu ar ein gweinyddwyr diogel (a warchodir gan len dân a chyfrinair).

 

Wrth gwrs, mae’r broses o drosglwyddo data dros y rhyngrwyd yn anniogel yn ei hanfod, ac ni allwn warantu diogelwch data a anfonir dros y rhyngrwyd.

 

(6)      Newidiadau o ran polisi

 

Gallwn ddiweddaru’r polisi preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd drwy gyhoeddi fersiwn newydd ohono ar ein gwefan.  Dylech chi ddarllen y dudalen hon yn achlysurol er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi’n hapus ag unrhyw newidiadau. 

 

(7)      Eich hawliau

 

Gallwch ofyn i ni roi unrhyw wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw amdanoch i chi.  Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi am gael y wybodaeth honno (£10.00 yw’r ffi ar hyn o bryd).

 

Gallwch ofyn drwy e-bost unrhyw bryd i ni beidio â phrosesu eich data personol at ddibenion marchnata.  (Yn ymarferol, byddwch fel rheol naill ai’n cytuno’n benodol ymlaen llaw y gallwn ni ddefnyddio eich data personol at ddibenion marchnata, neu byddwn yn rhoi cyfle i chi ddewis peidio â gadael i’ch data personol gael ei ddefnyddio at ddibenion marchnata.)

 

(8)      Gwefannau trydydd partïon

 

Mae’r wefan yn cynnwys cysylltiadau â gwefannau eraill. Nid ydym yn gyfrifol am arferion neu bolisïau preifatrwydd gwefannau trydydd partïon.

 

(9)      Diweddaru gwybodaeth

 

Dylech chi roi gwybod i ni os oes angen cywiro neu ddiweddaru’r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw amdanoch.

 

(10)    Cysylltu â ni

 

Os os gennych unrhyw gwestiynau am y polisi preifatrwydd hwn neu’r modd yr ydym yn trin eich data personol, ysgrifennwch atom drwy anfon e-bost at .(JavaScript must be enabled to view this email address) neu drwy anfon llythyr drwy’r post i’r cyfeiriad canlynol: Cynorthwyo Grwpiau i Dyfu, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin SA31 3HB.

 

(11)    Rheolwr data

 

The Good Folk yw’r rheolwr data sy’n gyfrifol am ein gwefan. 

 

Lluniwyd y polisi preifatrwydd hwn trwy garedigrwydd

Employment Law Contracts a Website Law[1]



[1]      Dylech chi nodi bod defnyddio’r templed hwn yn amodol ar y canlynol: naill ai (i) eich bod chi’n cadw’r gydnabyddiaeth hon a’r dolenni cyswllt hyn; neu (ii) eich bod chi’n talu’r ffi briodol am drwydded mewn perthynas â phob gwefan y defnyddir y ddogfen hon arnynt.