Dolenni

Isod rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau a mudiadau defnyddiol yng Nghymru ac ar draws y DU sy’n ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Os ydych yn sefydliad neu’n fudiad a fyddai’n hoffi cael sylw ar ein gwefan, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Sefydliadau a mudiadau yn y DU

Siarad â FRANK
Gwybodaeth a chyngor cyfrinachol yn rhad ac am ddim am gyffuriau, 24 awr y dydd trwy e-bost neu dros y ffôn (bydd galwadau’n rhad ac am ddim o ffôn nad yw’n ffôn symudol, ac ni fyddant yn ymddangos ar y bil ffôn). Mae hon yn wefan annibynnol a gaiff ei hariannu gan y llywodraeth. Caiff pob gohebiaeth â Frank ei chadw’n gwbl gyfrinachol.

drugs.homeoffice.gov.uk
Y wefan drawslywodraethol i gefnogi’r Strategaeth Gyffuriau Genedlaethol a gwaith y Timau Gweithredu ar Gyffuriau. Mae wedi’i chynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes cyffuriau, ond mae’n ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i unrhyw unigolyn sydd â diddordeb yn y maes.

Galw Iechyd Cymru
Mae gwefan Galw Iechyd Cymru’n darparu ystod eang o wybodaeth sy’n ymwneud ag iechyd, gan gynnwys manylion am ddeintyddion, fferyllfeydd, clinigau iechyd rhyw a grwpiau cymorth yn eich ardal, yn ogystal â gwyddoniadur A-Y ynghylch iechyd.

Alcohol Concern
Ar wefan Alcohol Concern ceir cyfeiriadur cynhwysfawr o’r gwasanaethau sydd ar gael i bobl â phroblemau yfed ym mhob ardal yng Nghymru a Lloegr.

Dan 24/7
Llinell gymorth ddwyieithog a rhad ac am ddim am gyffuriau, sy’n darparu un pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sydd am gael gwybodaeth bellach neu help yn ymwneud â chyffuriau neu alcohol.

Mind
Mind yw prif elusen iechyd meddwl Cymru a Lloegr. Mae’n gweithio i greu bywyd gwell i bawb sydd wedi profi poen meddwl.

Y Samariaid
Mae’r Samariaid yn cynnig cymorth emosiynol cyfrinachol heb farnu pobl. Mae ar gael 24 awr y dydd ar gyfer pobl sy’n profi gofid neu anobaith, gan gynnwys teimladau a allai arwain at hunanladdiad.

Combat Stress
Combat Stress yw’r brif elusen sy’n arbenigo mewn gofalu am gyn-filwyr o Brydain sydd wedi cael eu trawmateiddio’n ddifrifol gan brofiadau erchyll yn ystod eu gyrfa’n gwasanaethu, ac y mae eu hiechyd meddwl wedi dioddef o ganlyniad i hynny.

SANE line
Sefydlwyd SANE yn 1986 i wella ansawdd bywyd pobl y mae salwch meddwl yn effeithio arnynt.

Scottish Drugs Forum (SDF)
SDF yw’r asiantaeth anllywodraethol genedlaethol ar gyfer polisïau a gwybodaeth am gyffuriau, sy’n gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gydlynu ymatebion effeithiol i’r defnydd a wneir o gyffuriau yn yr Alban.

Gwefan answyddogol AA
Mae’n cynnwys cyfleuster chwilio am gyfarfodydd.

Sefydliadau a mudiadau yng Nghymru

Prosiect Kaleidoscope
Cymorth cyfannol i bobl sydd ar gyrion cymdeithas. Ei nod yw hybu cynhwysiant cymdeithasol.

Iechyd Meddwl Cymru
Mae’n darparu gwybodaeth trwy Gymru gyfan am faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl.

Turning Point
Mae Turning Point yn fudiad gofal cymdeithasol, ac mae’n darparu gwasanaethau arbenigol ac integredig sy’n diwallu anghenion unigolion, teuluoedd a chymunedau ar draws Cymru a Lloegr.

Cyswllt Contact
Gwasanaeth dydd sy’n cynnig help, cyngor a chymorth i bobl â phroblemau’n ymwneud â chyffuriau ac alcohol, a’u teuluoedd. Mae’r gwasanaeth wedi’i leoli yn Aberystwyth, Ceredigion.

Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru
Mae hwn yn brosiect datblygu ym maes iechyd meddwl, ac mae’n darparu ystod o wasanaethau i grwpiau gwirfoddol, gofalwyr ac unigolion sy’n byw yn Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro ac sydd wedi neu sydd wrthi’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl.

Prism
Mae Prism yn asiantaeth arbenigol yn y gymuned, sy’n cynnig cyngor, cymorth a gwybodaeth yn rhad ac am ddim i bobl sydd â phroblemau’n ymwneud â’u defnydd nhw neu ddefnydd rhywun arall o alcohol.

Rhoserchan
Mae Rhoserchan yn cynnig rhaglen cymal cyntaf 12 cam a 12 wythnos, sy’n wasanaeth ailsefydlu preswyl ar gyfer pobl â phroblemau’n ymwneud â chyffuriau ac alcohol. Mae Rhoserchan hefyd yn cynnig rhaglen ail gymal ar gyfer y rheiny sy’n cael trafferth byw bywyd heb gyffuriau.