Trosolwg
Sefydlwyd Cynorthwyo Grwpiau i Dyfu i ddarparu a chyflwyno dulliau seicogymdeithasol o drin achosion o gamddefnyddio sylweddau, er mwyn cynorthwyo unigolion sy’n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol i roi’r gorau iddi neu fyw hebddynt.
Hanes
Mae Cynorthwyo Grwpiau i Dyfu wedi datblygu o’r Rhaglen Ymyriadau Cyffuriau yn Nyfed-Powys. Sylweddolwyd bod nifer o’r defnyddwyr gwasanaeth a oedd yn troi at y gwasanaeth yn profi poen meddwl ac iselder ysbryd a oedd yn gysylltiedig â’r ffaith eu bod nhw’n camddefnyddio sylweddau, ond nid oeddent yn bodloni’r meini prawf ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl.
Llwybrau at Adferiad
Yn sgîl cyflwyno cais llwyddiannus i’r Loteri Fawr a sicrhau cymorth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae Cynorthwyo Grwpiau i Dyfu wedi gallu sefydlu’r rhaglen Llwybrau at Adferiad. Bwriad y rhaglen yw pontio’r bwlch rhwng darpariaeth mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau a darpariaeth mewn perthynas ag iechyd meddwl.
Y Model Cydbwysedd Ffordd o Fyw
Mae Cynorthwyo Grwpiau i Dyfu yn cydweithio’n agos â Clinical Psychology Associates, sydd wedi datblygu’r model ‘cydbwysedd ffordd o fyw’. Mae’r model yn galluogi’r sawl sy’n cymryd rhan yn y rhaglen i ddeall anawsterau seicolegol sylfaenol a mynd i’r afael â nhw – anawsterau megis iselder ysbryd, gorbryder, dicter a lefelau isel o hunan-barch, sy’n hybu eu dibyniaeth ar sylweddau. Mae Clinical Psychology Associates yn darparu cymorth clinigol parhaus ar gyfer y rhaglen.
Mentora grwpiau
Mae cynnwys defnyddwyr gwasanaeth wrth ddarparu’r rhaglen yn allweddol i ddull gweithredu Cynorthwyo Grwpiau i Ddysgu. Bydd defnyddwyr gwasanaeth sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen Llwybrau at Adferiad yn cael cyfle i hyfforddi a chymryd rhan mewn rhaglenni yn y dyfodol fel mentoriaid cydradd.
Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol
Bydd Cynorthwyo Grwpiau i Dyfu yn cynnig hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus i staff a gwasanaethau perthnasol.
